top of page

Meddyliwr

Tobs, 27

Quarter-Life Crisisby Leigh Davies
00:00 / 03:57

Ro’n i bob amser yn meddwl bod hapusrwydd i wneud â faint o arian sy gyda ti yn dy gyfrif banc... Ro’n i’n beth byddai pobl yn galw “all work and no play”! Doedd dim bywyd cymdeithasol gyda fi achos roedd gyda fi’r syniad yma byddai pobl yn aros amdano fi felly mae’n iawn dal mlaen i weithio, ond dwi wedi dysgu’n ddiweddar fod hynna ddim yn wir. Bydd teulu a ffrindiau’n symud ymlaen hebddo ti.

Ar ôl cael quarter-life crisis a mynd mewn i therapi, sylweddolais i fy mod i wedi gwneud cymaint yn fy mywyd ond dwi byth wedi dathlu beth dwi wedi wneud. I fi doedd e byth yn ddigon da. Roedd angen i fi wneud mwy, a roedd angen i fi gyflawni mwy. Gwnes i ddysgu mewn therapi fy mod i’n rhedeg yn erbyn fy hun. Doedd dim cloc, jest FI oedd e. Roedd llun gyda fi o beth oedd hapusrwydd, ond yn y byd go iawn dim dyna beth oedd e.

Nawr i fi mae hapusrwydd i wneud gyda bod yn iach, a gweld y bobl dwi’n eu caru yn gwenu achos fi. Mae hapusrwydd yn dod o fod yn sicr o fi fy hun, bod yn fodlon gyda beth sy gyda fi, dim beth dylwn i fod wedi cael. Mae bywyd beth ti’n wneud ohono fe, felly dwi’n mynd i wneud e’n llawn chwerthin, llawenydd a hapusrwydd.

bottom of page