top of page

Perchennog Siop

Max, 28

Tabletop Gamesby Leigh Davies
00:00 / 03:26

Ie, so cwrddes i â Rodders ar noson mas. Fe naethon ni gwmpo mas, mewn ffordd fawr, yn neud yr un pwynt wrth ein gilydd. Dwedodd e wrtha’i am y Newport Gaming Club, oedd dim ond wedi bod yn mynd ers cwpwl o wythnosau bryd ’ny, a dechreuais i fynd, a dyna ble cwrddes i â Chris. Y syniad o’r dechrau oedd troi e’n fusnes, siop falle, ac ar ôl rhai blynyddoedd, o’n i a Chris yn cael chat, o’dd ei amgylchiadau fe ’di newid, ac o’n i ’di cael llond bola’n gweithio’n y tafarn, er bod y cyflog yn neis fel assistant manager, o’n i ddim yn mynd i unman ’da fe, ac o’dd yr oriau’n nadu fi rhag treulio amser ’da ngwraig i. Felly pan o’n ni’n siarad, dwedon ni “So… be ni am neud? Shit or get off the pot?” Fe agoron ni mis Rhagfyr 2020, jest cyn mynd mewn i’r lockdown hir dros Nadolig, so o’dd yr amseru’n uffernol. Ni’n dal i fod yn diodde o’r twf araf cynnar ’na. Ond mae’r gymuned – yn enwedig yn y Gaming Club – wedi bod yn wych, ac ma nhw wir wedi cadw ni fynd. Mae’r clwb yn ei ddegfed blwyddyn nawr, a ma’r siop dal yn tyfu, ar ôl tair blynedd. Ma’r gemau bwrdd ’ma, pethau cymdeithasol y’n nhw, a ma pobl angen cymuned, a ’na pam bod y siop mor bwysig. Ti’n gallu ordro pethau ar-lein ond mae’r diwydiant yma’n byw neu’n marw drwy’r gymuned sy’n datblygu o’i gwmpas e. Ma gallu siarad ’da rhywun am beth ti’n garu a gallu chwarae gemau ’da’ch gilydd mor bwysig.

bottom of page