top of page

Gweinyddwr Cyfryngau Cymdeithasol

Chazz, 28

Pot Pot Potby Leigh Davies
00:00 / 03:07

So o’n nhw’n bod yn dickheads drwy’r dydd i fod yn onest, jest yn rili horibl. Timod y boi sy’n sefyll draw fynna a sy byth yn yfed? Wel o’n nhw’n galw fe’n “disabled Mario”. Just rili rili nasty. Y bobl ’ma... nhw o’dd y tîm pŵl o’n ni’n chware dydd Sul. So... o’n nhw’n ennill, fi a Leanne o’dd yn chware – o’n ni’n chware doubles – a clywon ni nhw’n chwerthin a’n jocan a mynd “oh merched yw rein, ni’n mynd cico’u tine nhw cos merched y’n nhw!”, a fel o’n ni’n cerdded heibio nhw ath un boi “nice arse”, a nes i jest syllu arno fe a mynd, “ti’n chware, dy’t ti”, ac ath e “ie”. So es i rownd y cornel a tynnu popeth mas o’n bocedi, yn ffôn i a popeth mas o’n bra i, slamo fe lawr ar y ford. O’dd pawb fel calm down Char, o’n i fel “fi yn calm, fi’n calm” ac o’n i fel, “ma raid i ni ennill hwn, ni ddim yn mynd i ennill y gêm i gyd, ond ma raid i ni ennill HWN, cos ma raid i ni brofi point”. Ar un pwynt, bwres i llwyth o beli mewn rhes, o’n i fel pot, pot, pot, pot, pot. Saimod sut nes i fe, fi’n meddwl taw’r egni o’dd e, o’n i’n wyllt. Ta beth, enillon ni, a nath pawb ysgwyd llaw ar y diwedd, a nes i ysgwyd llaw y boi, edryches i’n strêt ato fe, a gweud… “Nice arse.”

bottom of page