top of page

Brenin Drag a DJ

Justin Drag, 32

I've Done My Partby Leigh Davies
00:00 / 05:01

Fi wrth ’y modd yn gweithio… a fi’n gwbod bod hwnna’n swno’n ironic cos falle bod lot o bobl yn dweud “…ti’n lico gweithio?!” haha, ond fi yn! Ffindes i’n calling eleni drwy berfformio, a neud drag, a helpu’r gymuned gyda’n platfform i, a’r teimlad ’na o hapusrwydd fi’n gallu dod â mas mewn pobl. Falle bod nhw ’di cael diwrnod ofnadwy, neu wythnos ofnadwy, neu blwyddyn ofnadwy, ond os dwy’n gallu helpu nhw i deimlo dipyn bach yn ysgafnach yn y foment yna neu yn yr awr yna pan fi’n perfformio a cymryd eu meddyliau nhw off eu problemau nhw, wedyn fi’n teimlo fel bod fi ’di neud ’yn ran. ’Yn gôl i ers rhai blynyddoedd nawr yw defnyddio’n platfform i greu newid a helpu pobl yn lle jest mynd lan ’na a perfformio a wedyn switsho bant a dod nôl gartre – sydd weithiau, ie, yn rhywbeth dylen i neud – ond ma gymaint o ots ’da fi fel bod fi moyn i bobl... fi moyn i bobl deimlo fel bod nhw ’di cael eu gweld ac i bobl wybod bod gyda nhw le saff pryd bynnag fi’n perfformio neu pryd bynnag ma nhw rownd drag artists.

bottom of page