top of page

Gweithiwr Print Proffesiynol a Gweithiwr Protest Amatur

Tom Fowler, 43

Power Struggleby Leigh Davies
00:00 / 03:11

Ma nhw’n dod amdano ni achos bod ni’n gryf, dim achos bod ni’n hollol irrelevant, a fel… yr un sy wastad yn craco fi lan yw pan ma pobl yn gweud “Ond beth ma protestio byth ’di neud i ni?” …wel, y fucking penwythnos mêt! Fel, timod be fi’n meddwl? Fel, rhai pethau rili fucking basic ni’n cymryd yn ganiataol. Yr unig hawliau sy ’da ni yw’r rhai ni ’di ymladd amdanyn nhw. Timod… dim debating chamber yw cymdeithas, power struggle yw e, dyw e ddim fel… cael y geiriau iawn yn y drefn iawn. ’Se hwnna’n wir, ’se cyfreithwyr yn rhedeg y wlad ’ma… ’se nhw’n rhedeg popeth bysen? Dyw e ddim i neud â ffindo’r ddadl iawn. Ma fe i neud â bod yn bresennol, peidio bod yn fodlon cymryd eu shit nhw. Timod be fi’n meddwl? Ma fe am neud ffys, ac ymladd amdano fe!

bottom of page