top of page

Mam y Cathod

Mil, 26

Tiny Boat on a Frozen Lakeby Leigh Davies
00:00 / 03:17

Un o’r breuddwydion mwyaf rhyfedd dwi ’di cael, ces i fe pan o’n i yn y brifysgol. O’n i mewn cwch bach bach ar lyn wedi rhewi gyda nghariad i ar y pryd. Ar hyd ymylon y llyn roedd ’na gathod bach, rhai bach bach, yn sgathru i ddianc o’r llyn wedi rhewi. O’dd ofn arna’i, ac o’n i eisiau eu hachub nhw ond o’dd ’y nghariad i ddim yn gadael i fi neud. Cawson ni ffrae a nath e drio mynd â ni o ’na, a gadael i’r cathod bach farw…

O’dd y freuddwyd yma’n teimlo’n symbolaidd i fi achos dwi’n cysylltu cathod â benywaidd-dra. Fe wnaeth i fi sylweddoli mod i’n teimlo fel bod fy menywaidd-dra i’n cael ei anwybyddu, ei lesteirio, a’i reoli yn ’y mywyd i. Roedd y cathod bach yn symbol o menywaidd-dra i a’n synnwyr i o fi fy hun, ac roedd y llyn yn teimlo fel y berthynas.

…yn y diwedd fe wnes i redeg i ffwrdd oddi wrtho fe ac achub y cathod bach ’yn hunan.

Copyright © Leigh Davies 2024

bottom of page