top of page

Craftivist

Naseem Syed, 42

Radical Kindnessby Leigh Davies
00:00 / 04:26

Ma neud crefftau’n ffordd o ddianc a ma’n mynd â fi nôl i mhlentyndod i. Ma ’da fi atgofion melys o’r dyddiau pan o’n i’n neud pom-poms ’dag Anti Mimo. O’dd y pom-poms yn atgoffa fi o neud dymuniad, fel hadau dant y llew. Ma ’na gymaint o harddwch i gael o gofleidio cynhesrwydd cysylltiad ’da pobl. Ma’n mudiad i, ‘Radical Kindness’, ’di gwreiddio mewn byd natur a dynoliaeth. Ma’n dod yn fyw gyda creadigrwydd, crefftau, caredigrwydd a bod yn ddiolchgar. Ma pobl yn disgleirio drwy garedigrwydd radical, gyda’i gilydd ma nhw’n fwy disglair byth, fel yr haul yn disgleirio ar y môr, cwtsh cynnes, a disgled.

Fi ’di cael ’y ngalw’n gasglwr awras a llawenydd am yr holl pom-poms unigryw fi ’di creu a’r negeseuon fi ’di dala a’u pasio mlaen. Mae pawb fi’n cwrdd ag e yn anhygoel a ma ’da nhw rwbeth arbennig amdanyn nhw, er bod nhw ddim fel arfer yn gallu gweld e eu hunain. Fi’n gobeithio bod fi’n dod â goleuni a’n dathlu pob un drwy’r storïau sy’n cael eu rhannu a’r caredigrwydd sy’n cael ei basio mlaen. Ma pom-pom yn troi’n cwtsh; yn stori; yn flodyn; yn syniad; yn freuddwyd. Y tu mewn iddo fo mae ’na symbol pwerus, yn cysylltu atgof ac ennyd ’da’i gilydd.

Fi’n neud ’y mudiad i, ‘Radical Kindness’, yn enw nghyfnither arbennig i, Annabel – neu ‘Granny Annie’ fel o’n ni’n galw hi am ein hoffter ni o grefftau a disgled – o’dd yn tywynnu cymaint o gynhesrwydd a caredigrwydd. O’dd hi’n enaid creadigol, caredig, a’n artist cain anhygoel. Nath hi golli ei brwydr â canser yn ddiweddar yn 26 oed. Mae ’da fi hiraeth ofnadwy amdani. O’dd ei gwên hi’n goleuo’r stafell. Nath hi hefyd greu cannoedd o pom-poms i bobl eraill, pob un mor unigryw, jest fel hi. Mae dewrder, hiwmor a creadigrwydd Annie wedi’n ysbrydoli i i ddala mlaen i ledaenu caredigrwydd. Paid byth tanbrisio’r effaith galli di gael ar rywun. Bydd cynhesrwydd Annie yn aros ’da fi am byth a’n tywynnu ar eraill.

bottom of page