top of page

Tafarnwr

Craig Davies, 41

Everyday is a Different Dayby Leigh Davies
00:00 / 03:23

Fi ’di bod yn cadw tafarn ers ache, a ma bob dydd yn wahanol. Chi ddim yn gwbod beth neu pwy fydd yn dod drw’r drws, ond ’na’r rhan o’r job fi’n lico fwya. Ma pawb sy’n dod mewn, fi’n lico rhoi amser i siarad a gwrando ar eu stori nhw. ’Y fi yn cymryd diddordeb, a fi tam’ bach yn fusneslyd, ond ma fe gyd yn ran o’r gwaith. O’dd hwn byth yn job i fi, ma fe’n fwy o ffordd o fyw. Ma raid ti godi’n gynnar a gweithio tan orie mân, bron bob dydd. Ma fe’n neud e’n fwy personol a diddorol pan ma’r regulars yn dod mewn a’n gweld pwy sy tu ôl y bar a ma nhw’n gwbod beth i ddisgwyl. Fel arfer hen ddyn blin a salw, ’na beth ’y fi ’di troi mewn i... Swnio fel bod fi ’di troi mewn i’n dad i aha! …ta beth, sai’n barod i setlo lawr am y bywyd tawel.

Weithiau fi wir on form a ma pawb wrth ei bodde ’da’r banter ma nhw’n gael. Fi hefyd yn glou ’da’r one liners, yn rhoi pobl yn eu lle os oes angen, er dim mewn ffordd gas. Licen i feddwl bod fi’n firm but fair fel tafarnwr. Fi’n rhoi croeso i bawb drwy’n ddrws i, pwy bynnag y’n nhw, mae pawb yn cael cyfle – mae fe lan i nhw sut ma nhw’n defnyddio fe – mae’r ran fwyaf yn dangos digon o barch ac yn neud yn iawn ’da pawb, a ma ’na le i bawb.

I ddod lan i Gasnewydd i redeg tafarn, un sporty old school go iawn – timod, o feddwl taw bachgen o Gaerdydd ’y fi, a bod fi’n hoyw – … o’n i’n meddwl falle fydden i ddim ’di cael ’y nerbyn. Cos bod fi o Gaerdydd fwy na dim ahaha! …achos bod ni’n dipyn o rivals yn y byd chwaraeon, ond sai ’di teimlo’n awkward o gwbl na ’di gweld dim arwyddion bod ’na ddim croeso i fi. Ma ’da ni griw anhygoel o regulars ’ma a ma’r Red Lion wedi mynd o nerth i nerth.

…a hir y parha!

Copyright © Leigh Davies 2024

bottom of page