top of page

Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddw

Samantha Rose Wheeler

Better for the Nextby Leigh Davies
00:00 / 04:06

Heddiw dwi’n teimlo fel mod i’n nabod ’yn hun; mod i mewn tiwn yn llwyr gyda’n hun. Gorff ac enaid.

Mae bod yn fam wedi’n newid i’n llwyr, bob gewyn ohona i. Dwi’n berson gwell o’i herwydd hi. Dwi eisiau bod yn berson gwell er ei mwyn hi. Dwi o hyd yn gweithio arna fi’n hun achos dwi eisiau bod y fersiwn gorau o’n hun iddi hi.

Mae bod yn rhiant yn cymryd lot allan ohonot ti, mae’n gofyn edrych tu fewn i ti dy hun, dysgu, ac esblygu. Ond ein cyfrifoldeb ni yw e. Mae cyfrifoldeb gyda ni gyd – i bobl eraill ac i’r byd o’n cwmpas ni – i fod yn well. Yn well er mwyn y genhedlaeth nesa.

Pam nad y’n ni’n bod yn well iddyn nhw?

Copyright © Leigh Davies 2024

bottom of page